Rownd y Pererindod
Dyma gyfarwyddiadau Hilary. Mae hi'n awyddus i'r gerddoriaeth fod am ddim i blant a 'r bobl sy'n gysylltiedig â Phenrhys a'r bererindod.
Gofynwyd i mi gyfansoddi cylch canadwy i gerddorion ifanc i'w ganu yng Nghadeirlan LLandaf i ddathlu agor LLwybr Pererindod Penrhys. O ganlyniad, 'dw i wedi cyfansoddi Pes (i gantorion di-brofiad), Cylch (i gantorion canolig eu gallu), a Desgant ac Interliwd (i gantorion profiadol). Bydd pob un yn cyseinio gyda churiad cryf ffyn yr arweinwyr/pererinion. Mae'r sgôr a'r Mp3 (islaw)yn dangos y gwahanol fersiynau. Mae'r Pes yn deillio o nodau cyntaf yr emyn Cwm Rhondda - sy'n addas ar gyfer Penrhys. Eb yw'r cywair - sef cywair Hen Wlad fy Nhadau. "Cyflymder cerdded" yw'r tempo.
- Islaw mae'r Cylch gyda'r geiriau yn Gymraeg a Saesneg. (Pilgrims Round - Samples corr.musx) Mae'r Pes yn cael ei gynnwys ar y dechrau ac fe ddylai barhau drwy'r cyfan os yn bosib
- Mae'r Desgant a'r Interliwd Desgant (Pilgrims Round - Descant corr. pdf) ar gyfer y cantorion uwch eu gallu). Gall yr ychwanegiadau gael eu cynnwys neu beidio - yn dibynnu ar pa mor gyfforddus fydd y cantorion ifanc i'w canu.
- Mae'r fersiwn o'r sgôr (Pigrim's Round Final corr - Score.pdf) yn dechrau gyda churiad ffyn y pererinion, yna alaw'r Cylch, yna'r Cylch mewn 4 rhan, yna'r desgant gyda'r alaw, yna'r cyfwng desgant , yna'r cylch (4 rhan) gyda'r desgant wedi ei ychwanegu, a'r diweddglo wedi ei bylu allan.
- Yr Mp3 (Pilgrim's Round Final 2.Mp3) yw fersiwn Finale o'r sgôr uwchlaw. Nid fersiwn perfformiad o'r darn yw'r sgôr, ond esiamplau o'r ffordd y gallai'r darn gael ei berfformio - fel alaw (heb neu gyda'r Pes), fel cylch, fel cylch gyda'r desgant ... ac yn y blaen. Yn dibynnu ar gwmpasrannau'r cantorion, gall cylch gyda lleisiau benywaidd gael ei ddilyn gan gylch gyda lleisiau dynion, ac yn y blaen. Mae'r gerddoriaeth yno i'w dehongli fel y mynner.
Llwybr a Mapiau
Ynys yw Pen-rhys yn nhrwyn y fforest,
Bara ‘fferen a dŵr swyn.
gan Gwilym Tew circa 1470
Gweithio mewn partneriaeth