Cymorth a Chyngor
Mynd o Gwmpas
Am fanylion llawn am gludiant cyhoeddus, ewch i Traveline Cymru.
Mae'r gorsafoedd tren agosaf yn Tyllgoed a Danescourt, gyda'r trenau yn rhedeg yn rheolaidd i ac o Ganol Caerdydd. Mae bysiau o ganol y ddinas yn stopio y tu fas i’r Maltsters ar gyffordd Heol Caerdydd a’r Stryd Fawr. Mae maes parcio yn Stryd Fawr (parcio am ddim lan at ddwy awr).
Mae trenau yn rhedeg yn aml rhwng gorsaf Radur â Chanol Caerdydd. Mae bysiau yn rhedeg o Radur i Landaf ac i ganol y ddinas. Gallwch barcio ar y stryd neu ym maes parcio'r orsaf.
Mae bysiau yn rhedeg rhwng Creigiau â'r ddinas o'r tu fas i Creigiau Inn ar Heol yr Orsaf. Fe allwch barcio ar y stryd.
Mae bysiau yn rhedeg rhwng Groesfaen a Chaerdydd o ganol y pentre. Byddwch yn ofalus wrth barcio ar Heol Peterston neu ar y strydoedd cefn.
Mae bysiau yn rhedeg rhwng Llantrisant a Chaerdydd. Gallwch barcio am ddim yn Heol y Sarn.
Mae'r gorsafoedd tren agosaf yn Porth a Thonypandy. Mae bysiau yn rhedeg i ac o Gaerdydd ac yn mynd heibio i Donysguboriau. Gallwch barcio ar y stryd.
O'r orsaf, mae trenau yn rhedeg yn aml rhwng Dinas a Chanol Caerdydd. Mae bysiau yn rhedeg i Gaerffili neu i'r Porth sy'n cysylltu â bysiau i Gaerdydd. Gallwch barcio ar y stryd.
Yr orsaf drenau agosaf yw Ystrad. Gallwch fynd ar fws i ddal tren yn Ystrad. Neu mae 'na fysiau yn rhedeg i Gaerdydd o Tylorstown. Gallwch barcio ger y gofgolofn.
Llwybr a Mapiau
Ynys yw Pen-rhys yn nhrwyn y fforest,
Bara ‘fferen a dŵr swyn.
gan Gwilym Tew circa 1470
Gweithio mewn partneriaeth