Atyniadau Lleol


 

Cambrian Lakeside


Mae Cambrian Lakeside yn Clydach Vale ger Tonypandy. Mae'n cynnwys caffi a bar ac Academi Chwaraeon. Mae'r golygfeydd o gwmpas yn wych ac mae 'na lwybrau cerdded hyfryd yn ogystal a chyfleusterau chwaraeon a gweithgareddau awyr agored.

Y Ffatri


Mae'r Ffatri yn ganolfan ddiwylliannol i weithgareddau'r gymuned, yn gartref i fusnesau, ystafelloedd cyfarfod, ac yn lleoliad i amrywiol weithgareddau, oriel gelf, stiwdio a chaffi. Mae'r Ffatri, yn Porth, yn rhan o'r elusen Valleys Kids.

Cadeirlan Llandaf


Eglwys Gadeiriol Llandaf yw'r gadeirlan Anglicanaidd yng Nghaerdydd, a chadair Esgob Llandaf. Yn safle Cristnogol ers y 6ed ganrif ac yn frith o hanes, mae'r gadeirlan yn cynnal amrywiol wasanaethau, digwyddiadau a chyngherddau.

Neuadd y Dref, Llantrisant


Yn yr hen ran o Lantrisant, mae Neuadd y Dref, sy'n dyddio nol i'r 14eg ganrif, wedi cael ei hadfer yn gelfydd. Mae'r lle nawr yn ganolfan treftadaeth ac ymwelwyr, gyda digwyddiadau yn cynnwys arddangosfeydd, ffilmiau a chyngherddau.

Y Model House


Wyrcws oedd y Model House yn Llantrisant yn wreiddiol. Heddiw mae'n gartref i stiwdios artistiaid, oriel gelf a siop anrhegion, gan arddangos ystod eang o grefftau llaw lleol.

Parc Treftadaeth Cwm Rhondda


Mae'r Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ar safle glofa Lewis Merthyr yn Trehafod. Gallwch gael profiad o fywyd tan ddaear yng nghwmni cyn lowr fydd yn eich tywys o gwmpas. Manteisiwch hefyd ar arddangosfeydd y Parc, y siopau a'r caffi.

Cymdeithas Twnel Cwm Rhondda


Mae'r Gymdeithas Twnel Cwm Rhondda yn anelu at greu y twnel hiraf yn Ewrop i gerdded ar ei hyd a seiclo, trwy ail agor Twnel Rheilffordd Rhondda a Bae Abertawe. Mae'r twnel a agorwyd ym 1890 bron yn ddwy filltir o hyd, ac yn y man dyfnaf mae'n 1000 troedfedd dan ddaear.

Profiad y Bathdy Brenhinol


Mae gan Profiad y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant chwe pharth gwahanol yn dilyn hanes y Bathdy Brenhinol dros y 1,100 blwyddyn ers ei sefydlu. Dysgwch am y ffordd y mae'r darnau arian yn cael eu cynllunio a'u gwneud, a chael cip ar ddarnau arian arbennig a'r casgliad o hanes anghyffredin.

Oriel y Gweithwyr


Mae Oriel y Gweithwyr yn lle i gwrdd ag artistiaid a chynllunwyr, a gweld eu gwaith. Mae'r Oriel, yn hen Lyfrgell Ynyshir, yn cynnal arddangosfeydd o waith gan artistiaid lleol a chenedlaethol, gweithdai, anerchiadau a digwyddiadau.

Treorci


Mae Treorci yn dref fywiog sy â'i Stryd Fawr wedi ennill gwobr am yr un orau yn y Deyrnas Unedig. Mae'n drwch o siopau annibynnol a chaffis a hefyd yn gartref i Gôr Meibion Treorci a Band Pres Parc a Dare.

Llwybr a Mapiau


Poster y Llwybr

Cysylltwch â ni


E-bost: post@penrhyspilgrimageway.wales

Ynys yw Pen-rhys yn nhrwyn y fforest, 
Bara ‘fferen a dŵr swyn.

gan Gwilym Tew circa 1470

Gweithio mewn partneriaeth


Cardiff Caerdydd, Rhondda Cynon Taf