Cynllunio Taith Gerdded


Mae'r llwybr wedi ei rannu i chwe rhan, sy'n amrywio o safbwynt y tirwedd, a pha mor anodd yw ei gerdded - mae ambell ran yn gallu bod yn fwdlyd ar ol cyfnodau o law trwm. Mae'n bosib cerdded pob rhan ar wahan, neu gallwch gerdded y llwybr ar ei hyd ar un tro - syniad perffaith ar gyfer  pererindod ar benwythnos neu wyliau byr gan y byddai'n cymryd dau ddiwrnod. Gallwch ystyried argraffu llwybr y daith cyn cychwyn, gan y gall signal ffôn fod yn wan mewn mannau, ac felly, bydd hi'n amhosib gweld y ffordd a mapiau ar-lein.  Yn agos at y llwybr, mae 'na lefydd o ddiddordeby gallwch ymweld â nhw yn ystod eich taith.  Peidiwch ag anghofio argraffu'ch pasport a chasglu'r stampiau arbennig wrth i chi fynd!

Llety


'Rydyn ni'n argymell archebu llety dros nos o flaen llaw. Dyw gwersylla ar hap ddim yn cael ei ganiatau fel arfer yng Nghymru ac mae'r ddarpariaeth ar gyfer gwersylla ar hyd y llwybr yn brin.

Gwisg


Gwisgwch esgidiau da ac ewch â dillad dal dwr gyda chi. Ar ddyddiau heulog, gwisgwch het. Yn ystod y misoedd oer, gwisgwch siaced dwym, het, a menyg a gallwch ystyried gwisgo coesarnau - gaiters - os ydi hi'n oer iawn. Hefyd fe fyddai mynd â ffon neu bolau cerdded yn rhywbeth i'w ystyried.

Deunydd Cymorth Cyntaf


Cariwch ddeunydd cymorth cyntaf mewn pecyn bach diddos. Fe ddylai gynnwys paracetemol a/neu iboprufen, plastr i fân friwiau a chrafiadau, ychydig o orchuddion clwyfau di-haint, hufen a chadachau antiseptig, pliciwr a siswrn.

Clefyd Lyme


'Dyn ni ddim yn ymwybodol o unrhyw achos o glefyd Lyme yng nghyffiniau Ffordd Pererindod Penrhys. Er hynny, 'rydym yn argymell i chi wisgo trowsus hir a phan mae hynny'n bosib, aros ar ganol y LLwybr wrth gerdded ar borfa. I gael mwy o wybodaeth am glefyd Lyme, ewch i wefan y Gwasanaeth Iechyd - yr NHS.

Pasport


Mae Pasports i'w cael i argraffu ac i'w cadw i gofio am y daith.

Sach Deithio


Os ydych yn bwriadu cerdded y llwybr ar ei hyd mewn dau ddiwrnod, fe ddylai'ch sach deithio fod yn un sy'n ddiddos. Gallwch gario dillad newid mewn bagiau diddos tu fewn i'r sach deithio. Os ydych yn bwriadu cerdded y llwybr fesul rhan ar y tro, bydd sach llai yn iawn.

Diogelwch


Dwedwch wrth rywun i ble 'rych chi'n mynd a'r amser 'rych chi'n debyg o gyrraedd. FFoniwch hwy pan fyddwch wedi cyrraedd pen eich taith. Gwnewch yn siwr eich bod wedi gosod ar eich ffôn yr hyn fydd ei angen arnoch os bydd argyfwng. Mae'r ap What3Words yn gallu pasio'r wybodaeth i'r gwasanaethau brys am eich lleoliad o fewn 3 metr.

Gofalion Croen


Yn yr haf fe fyddai eli haul ffactor uchel yn syniad da a hefyd eli i gadw pryfed draw.

Dŵr


Ewch â dŵr gyda chi. Fe allwch brynu ‘camel’ lle mae'r bag dwr yn ffitio i gefn eich sach deithio. Gallwch wedyn yfed y dŵr wrth i chi gerdded. Mae na ddigon o gyfleon i brynu dwr mewn siopau yn y pentrefi a'r trefi ar hyd y daith, neu fe allwch lawrlwytho'r ap Refill Cymru i ddod o hyd i ffynhonnau o ddŵr yfed sy' am ddim.

Llwybr a Mapiau


Poster y Llwybr

Cysylltwch â ni


E-bost: post@penrhyspilgrimageway.wales

Ynys yw Pen-rhys yn nhrwyn y fforest, 
Bara ‘fferen a dŵr swyn.

gan Gwilym Tew circa 1470

Gweithio mewn partneriaeth


Cardiff Caerdydd, Rhondda Cynon Taf