Llefydd


Mae Eglwys Gadeiriol LLandaf, y gadeirlan Anglicanaidd, mewn ardal gadwraeth, ac mae'n gymysgedd eclectig o steil pensaernïol. Mae'r adeilad presennol, wedi ei adeiladu ar safle eglwys gynharach, yn dyddio nol i o gwmpas 1120. Yn yr Oesoedd Canol cafodd ei ymestyn a'i addasu sawl gwaith. Erbyn yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif, roedd wedi cael ei ddistrywio'n sylweddol, ac fe gafodd ei ail godi i bob pwrpas gan John Wood. Yn y 19G cafodd ei adnewyddu'n helaeth gan John Pritchard. Yn 1941 cafodd yr adeilad ei fomio ac unwaith eto ei ddifrodi'n ddrwg. Ar ol y rhyfel cafodd ei adnewyddu gan George Pace. Codwyd cerflun anferth a gynlluniwyd gan Syr Jacob Epstein – yr enwog Crist Yn Ei Fawrhydi. Mae'r gadeirlan hefyd yn gartre i driptych Dante Gabriel Rossetti – Hedyn Dafydd.

Fe ddatblygodd Radur yn y 19G pan gafodd rheilffordd Cwm Taf ei adeiladu. Un o bentrefi cynnar y plwyf oedd Groeswen, a enwyd ar ol y groes wen fyddai wedi dynodi llwybr y pererinion. Roedd cangen o deulu'r Mathew, fyddai'n estyn croeso a llety i'r pererinion, yn byw yng Nghwrt Radur (Danescourt heddiw). Ysgrifennodd y bardd Rhisiart ap Rhys am Elspeth Mathew, "Parlwr gan vwr niferoedd i vels draw val osdri oedd" (Roedd ei pharlwr i nifer o gleifion fel gwesty) Mae cofnod hefyd bod Elspeth wedi anfon nifer fawr o ganhwyllau i Benrhys.

Daeth David Davies Llandinam â'r rheilffordd i Creigiau ym 1889 i wella'r cysylltiad trafnidiaeth rhwng glofeydd y Rhondda a'i ddociau yn y Barri. Ym 1896 fe ddaeth y trenau cludo teithwyr am y tro cynta i'r orsaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe gludwyd milwyr Americanaidd oedd wedi eu clwyfo i'r orsaf ar eu ffordd i ysbyty Rhydlafar. Daeth y tren ola ym 1962.
Yn y 15G, cafodd ffermdy Castell Mynach ei adeiladu i'r teulu Matthew a estynnai groeso a llety i'r pererinion.

Mae'n debyg bod croes ger Eglwys Dewi Sant yn nodi llwybr y pererinion yn y Canol Oesoedd. Pentre bach iawn oedd Groesfaen tan i weithiau mwyn haearn Bute a Mwyndy gael eu hagor yn y 19G. pan gynyddodd y boblogaeth yn sylweddol.

Mae Llantrisant yn gartref i eglwys plwyf ysblennydd, hen strydoedd wyneb cobls, olion castell a Neuadd y Dref sydd wedi cael ei hadnewyddu yn ddiweddar i fod yn Ganolfan Treftadaeth. Roedd y dre yn gadarnle allweddol i'r Normaniaid yn Ne Cymru. Bu Edward II yn garcharor yn y castell am ychydig cyn iddo gael ei symud i gastell Berkeley lle y cafodd ei ladd yn 1327. Ym 1346, rhoddwyd i'r dref Siarter Brenhinol, fisoedd cyn i'w saethwyr helpu Edward, mab Edward III, y Black Prince, i drechu byddin Ffrainc ym Mrwydr Crécy. Y tu fas i'r Model House mae cerflun o'r Dr William Price, y dyn ecsentrig ond talentog oedd yn feddyg, yn Dderwydd, yn Siartydd ac arloeswr amlosgi.

Mae tabled maen sy'n dyddio nol i 1909 yn dynodi'r man lle, yn ol y sôn, y cafodd Edward II ei ddal ym 1326 gan rai oedd yn gweithio i Isabella ei wraig – roedd y ddau wedi ymwahanu. Aed ag e i Gastell Llantrisant ac oddi yno i Gastell Berkeley lle y'i lladdwyd ym 1327.

Cafodd Canolfan Waun Wen yn Trebanog ei datblygu trwy gynllun adfywio cymuned Cyngor Celfyddydau Cymru - Syniadau: Pobl: Lleoedd. Yn 2018 fe weithiodd Trivallis, Plant y Cymoedd ac Artes Mundi gyda'i gilydd i edrych ar syniadau i adfywio trwy gelfyddyd. Fe gymerodd artistiaid rhyngwladol ran yn y gweithgareddau i annog gwelliant yn yr amgylchedd, mwy o gydlynu yn y gymuned, a datblygu sgiliau.

Penrhys oedd un o'r mannau mwya pwysicaf yng Nghymru i bererinion i ymweld ag e yn yr Oesoedd Canol. Yn ol chwedl, yn y 13G fe ymddangosodd cerflun hardd o'r Forwyn Fair ymhlith canghennau derwen ger y ffynnon sanctaidd. Fe fethwyd a symud y cerflun nes i gapel ac allor gael eu codi.

Roedd pererinion yn ymweld â'r safle tan y 1530au, pan orchmynodd Harri'r 8fed ddifetha holl allorau a cherfluniau tebyg. Yn y1930au ail gychwynodd y pererindodau i Benrhys ac aed ati i ddiogelu'r ffynnon. Ym 1953 cafodd cerflun o garreg Portland ei godi.

Ar draws y cwm o Benrhys saif Tip Llanwonno, neu Dip Tylorstown. Fe fyddai gwastraff o byllau glo Ferndown a Tylorstown yn cael ei gludo i'r ucheldir am nad oedd 'na le iddo ar lawr y cwm. Mae 'na gred yn lleol mai llosgfynydd mud yw e, wedi ei lenwi â gwastraff y glofeydd ar orchymyn y Bwrdd Glo er mwyn atal y mwg rhag codi i'r wyneb. Yn y 1970au, fe beidiodd y mwg ac fe gafodd partion stryd eu cynnal yn yr ardal i ddathlu diwedd bygythiad y llosgfynydd.

Llwybr a Mapiau


Poster y Llwybr

Cysylltwch â ni


E-bost: post@penrhyspilgrimageway.wales

Ynys yw Pen-rhys yn nhrwyn y fforest, 
Bara ‘fferen a dŵr swyn.

gan Gwilym Tew circa 1470

Gweithio mewn partneriaeth


Cardiff Caerdydd, Rhondda Cynon Taf