Llwybr
Mae'r daith wedi ei rhannu i chwe rhan, sy'n amrywio o ran natur y tirwedd a pha mor anodd yw e. Mae rhai rhannau yn gallu bod yn fwdlyd ar ôl glaw trwm. Mae'n werth ystyried argraffu llwybr y daith cyn i chi gychwyn, gan y gall y signal ffôn fod yn wan mewn ambell i ardal, ac efallai na fydd hi'n bosib gweld y llwybr a mapiau ar-lein. Edrychwch ar Cynllunio Taith Gerdded am awgrymiadau all fod yn ddefnyddiol, a gwybodaeth am fwyd a llety. Peidiwch ag anghofio dod a'ch pasport i chi gael casglu'r stampiau sydd wedi eu cynllunio'n arbennig ar y ffordd.
Cychwyn: Drws y Gorllewin, Cadeirlan Llandaf (cyfeiriad grid ST 155781, côd post CF5 2LA)
Diwedd: Heol Windsor, Radur (cyfeiriad grid ST 130802, côd post CF15 8BQ)
Pellter: 2.5 milltir / 4cm
- O Ddrws Gorllewin Cadeirlan Llandaf, ewch lan y grisiau a throi i'r dde ar hyd y lôn. Ewch heibio adeilad gwyn, Tŷ Prebendal.
- Ar ôl rhyw 100 llath (90m) trowch i'r chwith ar hyd y llwybr. Ar ôl 100 llath (90m) mae sedd wedi ei cherfio yn y wal, ac un arall.
- Trowch i'r chwith ger yr arwydd cyntaf (sydd â Gogledd Llandaf arno). Heb fod ymhell ar y dde, gallwch weld cored Llandaf
- Ar ôl 160 llath (150m) mae'r llwybr yn troi yn sydyn i'r chwith ar hyd ffin Clwb Rhwyfo Llandaf.
- Trowch i'r dde pan gyrhaeddwch chi Heol y Bont. Yn syth wedi'r troad i'r Clwb Rhwyfo, trowch i'r dde eto a dilynwch y llwybr ar lan yr afon.
- Ymlaen â chi ar hyd y llwybr, gan basio dau ffwrwm ac fe ddowch yn ôl i Heol y Bont.
- Pan gyrhaeddwch y ffordd, trowch i'r dde.
- Croeswch y ffordd i fynd i Heol Cwrt Radur. I wneud hynny'n ddiogel, gallwch barhau dros bont yr afon a chymryd y grisiau ar y dde, sy'n arwain i'r tanffordd. Neu gallwch fynd ymhellach at groesfan Zebra.
- Cerddwch ar hyd Heol Cwrt Radur. Pan fydd y ffordd yn gwyro i'r chwith (Gerddi Taf), ar ôl rhyw 650 llath (600m), ewch yn eich blaen, gyda glan yr afon ar y dde.
- Ewch yn eich blaen ar hyd y ffordd o dan y bont, gan fynd ychydig i'r chwith lan y goledd. Ewch lan y rhiw heibio Tŷ Isaf. Ychydig cyn y rhwystr motobeics trowch i'r llwybr ar y dde.
- Ewch ymlaen am rhyw hanner milltir (500m).
- Mae'r llwybr yn mynd i Glôs De Braose.
- Bron yn syth, trowch i'r dde i fyny'r grisiau (mae'r ffordd yn mynd yn syth ymlaen) ac ewch yn syth yn eich blaen wrth y glwyd fetel nesaf. Byddwch yn cyrraedd Gwarchodfa Natur Lleol Gallt y Meudwy.
- Pan ddowch chi i gyffordd siâp Y, ewch i'r chwith lan y goledd ac ewch ymlaen heibio ffwrwm.
- Fe ddowch i fwrdd gwybodaeth Coedwig Radur. Trowch i'r dde i Woodfield Avenue.
- Pan ddowch chi i'r pen, croeswch y ffordd (Heol Isaf) a cherddwch lan Heol Fferm Radur.
- Ewch yn eich blaen am rhyw 200 llath (180m), a chroesi clos Parc Radur.
- Ychydig cyn y glwyd a'r gamfa dilynwach y llwybr ar y dde. Croeswch y ffordd, ac ewch yn eich blaen ar hyd Plas y Mynach. Ewch i Rodfa Llantarnam ac yn syth wedyn trowch i Ffordd y Porthmyn.
- Dilynwch Ffordd y Porthmyn tan iddi droi'n sydyn i'r chwith ac ewch ar hyd y llwybr ar y dde rhwng y tai.
- Ar y pen mae Heol Windsor. Ewch i'r chwith yma i barhau â chymal nesa'r daith.
Gyda diolch i Janet Sully a phawb sydd wedi cyfrannu i fapio'r daith.
Cychwyn: Heol Windsor, Radur (cyfeiriad grid ST 130802, côd post CF15 8BQ)
Diwedd: A4119, Groesfaen (cyfeiriad grid ST 070809, côd post CF72 8NW)
Pellter: 4 milltir / 6.5cm
- Ewch lan Heol Windsor i gyffordd Heol Drysgol.
- Trowch i'r chwith i Heol Drysgol a mlaen â chi lan y rhiw gan fynd heibio i Glwb Golff Radur ar y chwith.
- Ewch heibio dwy ffordd i fewn i Dan y Bryn Avenue ar y dde.
- Ewch heibio Ffordd Las ar eich chwith.
- Ewch yn eich blaen i Bryn Derwen ac yna cymrwch y tro nesa ar y chwith i Lôn Pant Tawel sy'n croesi'r draffordd.
- Ewch yn eich blaen yn syth a chroesi lein rheilffordd segur.
- Ewch yn eich blaen i dir coediog, ar gwr Coedcae Fawr. Mae'r ffordd yn troi'n llwybr ac mae'n rhannu am ychydig.
- Cymrwch y llwybr is (mae'r un uwch sy'n fwy newydd yn sychach i gerdded arno, ac os ydych yn dewis hwn, cadwch yn agos at y llwybr is).
- Ar ôl mynd heibio camfa ar y dde, mae'r llwybr yn fforchio. Cymrwch yr un ar y chwith.
- Ewch i fyny'n syth ar hyd y llwybr nes cyrraedd lôn.
- Ewch ar hyd hon. Mae golygfeydd eang i'r de tuag at Fôr Hafren a thu hwnt.
- Mae'r lôn yn disgyn yn serth i gyffordd. Ewch i'r dde i Heol yr Eglwys. Ewch yn eich blaen gan gymryd gofal o'r traffig, tan i chi gyrraedd Llys y Coed (os ydych am ymweld ag Eglwys Sant Catwg ym Mhentyrch, mae hi 'mhellach lan Heol yr Eglwys).
- Yn union ar ôl Llys y Coed trowch i'r llwybr ar y chwith. Dilynwch y llwybr, trwy glwyd fetel, nes cyrraedd Heol y Parc.
- Trowch i'r dde ar hyd Heol y Parc heibio arwydd i bentref Pentyrch ac ar ôl rhyw 80 llath (73m) trowch i'r chwith trwy glwyd.
- Dilynwch ffens ger tŷ ar y dde, ewch trwy glwyd a dringo ychydig risiau. Ewch yn eich blaen, gyda'r ffens ar y dde. Ewch yn syth 'mlaen trwy glwyd a dringo'r rhiw i gae, gyda'r ffens ar y dde. Ewch yn eich blaen yn syth (PEIDIWCH mynd trwy'r iet fetel). Mae 'na olygfa o Fro Morgannwg.
- Ar ben draw y cae, ewch trwy iet i Heol Pant y Gored.
- Croeswch gyda gofal ac ewch i'r chwith am rhyw 50 llath (45m). Trowch i fewn i gae trwy iet mochyn (y 1af o gyfres).
- Ewch I lawr, gan wyro ychydig i'r chwith, a chyrraedd iet mochyn (2) ger y clawdd. Ewch trwy'r iet.
- Ewch yn eich blaen, gyda'r clawdd ar y dde, ac ewch trwy iet mochyn arall (3).
- Ewch yn eich blaen i lawr y rhiw, y clawdd yn dal ar y dde, trwy gae a iet mochyn arall (4).
- Ewch lawr i'r chwith, trwy iet mochyn arall (5), yna'n syth yn eich blaen, gyda choed a ffens ar y dde.
- Ewch i gornel y cae, a thrwy iet mochyn arall (6) y tu ôl i dai.
- Mae'r llwybr yn gwyro rhywfaint i'r dde, yn cyrraedd postyn marcio ar y top, ac yna mae'n mynd lawr i gyrraedd iet mochyn arall (7). Ewch yn eich blaen, gyda rhedyn ar y naill ochr a'r llall, a chyrraedd iet mochyn (8) a ffordd.
- Trowch i'r dde i Heol Pant y Gored - 'rydych 'nawr yn agosáu at Creigiau - ac ar ôl rhyw 50 llath (45m) arall fe welwch fwrdd gwybodaeth Wâc Cylchog Pentyrch. Ychydig cyn hyn mae 'na graig ger arwydd pentref Creigiau, gyda'r Maes Chwarae ar y dde
- Dilynwch y llwybr sydd â marc Sustrans arno rhwng y graig a'r ffordd.
- Croeswch y fynedfa i'r Maes Chwarae a dilynwch y llwybr
- Croeswch y ffordd i lwybr arall, sydd hefyd wedi ei farcio gan Sustrans, ac sydd â chlogfeini ar bob ochr. Dilynwch y llwybr hwn.
- Trowch i'r chwith wrth ffens werdd/lwyd uchel. Trowch i'r dde i Heol yr orsaf.
- Cerddwch ar hyd Heol yr Orsaf i gyrraedd Creigiau Inn.
- Croeswch Heol Caerdydd. Peidiwch a chymryd y llwybr ger y bocs teliffon
- Ewch i'r chwith am tua 12 llath (11m) ar hyd y pafin ac yna cymrwch y lôn ar y dde ar hyd llwybr tarmac i fynd i cul-de-sac Parc y Coed ar y chwith.
- Ewch ar hyd y ffordd a chymerwch y troad cyntaf ar y dde. Os ydych am weld hen ffermdy Castell Mynach (Gradd 2* rheistredig) sydd â chysylltiad â'r pererinion, ewch yn eich blaen yn syth ac fe welwch chi e ar y dde Maes y Gollen, nes 'mlaen. Ewch i lawr Maes y Gollen i weld Castell Mynach. Wedyn ewch yn ôl i Barc-y-Coed i gario ymlaen.
- Mae Parc y Coed yn diweddu wrth gylch troi, ond mae llwybr rhwng y ffensis ar y dde. Ewch ar hyd hwn i gyrraedd llain werdd. Ewch heibio'r pwll brogaed. Trowch i'r dde i Ffordd Dinefwr i gyrraedd Heol Tŷ Nant, sy'n rhedeg o'r Groesfaen i Creigiau.
- Croeswch y ffordd a dilynwch y llwybr (llydan) gyferbyn.
- Croeswch gamfa ac ewch trwy glwyd. Mae adfeilion Maes Mawr o'ch blaen. Ewch i'r dde ac ewch heibio'r adfeilion tuag at glwyd arall gydag arwydd Llwybr Cyhoeddus yn ei ymyl.
- Ewch trwy'r glwyd a throwch i'r chwith i lwybr gwledig. Mae hwn yn mynd a chi heibio Teras Redgate. Ewch yn eich blaen i gyrraedd yr A4119 sy'n rhedeg drwy’r Groesfaen a ble mae'r rhan yma o'r daith yn dod i ben. Mae'r Dynevor Arms bron yn syth gyferbyn gydag Eglwys Dewi Sant ychydig ymhellach ar y chwith.
Gyda diolch i Janet Sully a phawb sydd wedi cyfrannu i fapio'r daith.
Cychwyn: A4119, Y Groesfaen (cyfeiriad grid ST 070809, côd post CF72 8NW)
Diwedd: Bull Ring, Llantrisant (cyfeiriad grid ST 047834, côd post CF72 8EB)
Pellter: 3 milltir / 5cm
- Os ydych yn cychwyn eich pererindod yma, efallai yr hoffech ymweld ag Eglwys Dewi Sant yn y Groesfaen er mwyn gweld yr hyn sy'n debyg o fod yn waelod y groes faen oedd yn nodi llwybr y pererinion i Benrhys, sydd erbyn hyn y tu allan i ddrws yr eglwys. Yna, o'r Dynevor Arms gerllaw, croeswch yr A4119 gyda gofal, i ymuno â'r llwybr ar ochr ddwyreiniol y briffordd.
- Trowch i'r chwith. Ewch heibio Capel y Babell, Groesfaen ac aros ar y pafin gan fynd heibio dau droad i'r dde (Y Parc a Pen y Groes).
- Trowch i'r dde ar ffordd sydd heb enw, tuag at dŷ. Cyn y tŷ, trowch i'r chwith ac ewch drwy iet mochyn i gae.
- Dilynwch y llwybr ar hyd ochr y cae, yn agos i'r clawdd, ac ewch drwy'r iet mochyn yng nghornel y cae.
- Ewch ymlaen drwy'r cae a chroeswch y gamfa.
- Dilynwch y llwybr.
- Ewch heibio i bwll ar y chwith i ymuno â llwybr a chroeswch nant. Trowch i'r chwith ar y gyffordd gerllaw mynedfa Fferm Llwynsaer a dilynwch y llwybr i gyffordd.
- 'Rydych nawr yn agos i Groes Mwyndy lle y byddai Croes y Pererin wedi ei gosod.
- Ar ôl tro siâp S, mae fforch yn y llwybr, sy'n creu ynys. Ewch ar y dde ac ymlaen ar hyd y llwybr sy'n arwain i gyffordd T. Trowch i'r dde, dros grid gwartheg ac i ffordd darmac. Fe fyddwch yn mynd heibio adfail.
- Gadewch y ffordd pan fydd yn troi i'r dde ac ewch yn eich blaen ar lwybr porfa.
- Ar ôl 200 llath (185m), a thrwy goedwig, ewch drwy glwyd i fewn i gae a throwch ar eich union i'r chwith. Dilynwch y llinell o goed ar y chwith ac at gamfa yng nghornel gwaelod y cae. Croeswch y gamfa.
- Ewch yn eich blaen i lawr y llethr drwy'r cae a chroeswch y bont dros afon Clun.
- O'r bont dilynwch y llwybr, trwy iet mochyn, a chroesi'r cae am tua 110 llath (100m) i iet mochyn arall. Fe ddowch allan ar Heol Rhiwsaeson.
- Trowch i'r dde a cherddwch ar hyd y ffordd am rhyw 275 llath (250m) ac yna cymerwch y lôn ar chwith y dreif i dŷ o'r enw Little Foxes.
- Dilynwch y llwybr hwn - lôn sy'n amgylchu ochr orllewinol Caerau, hen fryngaer o oes yr haearn (os ydych am ddringo i ben y fryngaer, lle mae'r golygfeydd i bob cyfeiriad yn wych, gwyrwch i'r dde a dringwch i dop y bryn).
- Os nad ydych am fynd i'r fryngaer, ewch ar hyd y lôn tan i chi gyrraedd llwybr. Ewch i'r chwith rhwng ysgubor a'r ffermdy (Gwern y Moel Uchaf).
- Mae'r llwybr yn lledu ac yn troi yn ffordd. Ewch i'r chwith ar hyd y ffordd sy'n croesi'r A473.
- Yn union wedi'r bont (gyda'r arwydd Cross Inn a Llantrisant) trowch i'r chwith ar hyd y llwybr.
- Ewch yn eich blaen ar hyd y Llwybr Cymuned hwn.
- Yn union ar ôl y bwa o dan y lein rheilffordd segur, trowch i'r dde ac ewch i fyny'r llethr, gan anwybyddu'r llwybr newydd ar y chwith. Ewch drwy'r iet mochyn a dilynwch y llwybr sy'n gwyro i'r chwith. Croeswch yr agoriad i drac sy'n dod o'r dde ac ewch yn eich blaen i fyny'r llethr. Mae'r llwybr yn gwyro i'r dde ac yn dal i ddringo. Ar dop y rhiw, ewch drwy iet mochyn a dilynwch y llwybr i'r chwith tuag at Lantrisant.
- Mae'r llwybr yn ymuno a'r ffordd (Erw Hir) ger arwydd Ridgeway Walk.
- Ewch i'r chwith ac ewch yn eich blaen tan i chi gyrraedd cyffordd T lle mae'r ffordd (High Street) yn mynd tuag at yr Hen Lantrisant a thu hwnt.
- Croeswch y ffordd yn ofalus, trowch i'r dde ac ar ôl rhyw 20 llath (18m) ewch i'r chwith i fyny rhai stepiau.
- Dilynwch y llwybr drwy iet mochyn tan i chi gyrraedd y rheiliau wrth odre Castell Llantrisant. Dringwch y grisiau ar y dde. 'Rydych nawr ar y Castle Green, gydag adfail Twr y Gigfran ar y chwith.
- Dilynwch y llwybr a chroeswch y llain werdd gan basio'r stociau. Mae hen Neuadd y Dre ar y dde.
- Ewch heibio Neuadd y Dre a throwch i'r dde i George Street, stryd o wyneb cobls, ac ewch yn eich blaen i lawr y rhiw i'r Model House a cherflun William Price yn y Bull Ring.
Gyda diolch i Janet Sully a phawb sydd wedi cyfrannu i fapio'r daith.
Cychwyn: Bull Ring, Llantrisant (cyfeiriad grid ST 047834, côd post CF72 8EB)
Diwedd: Concorde Drive, Tonyrefail (cyfeiriad grid ST 019788, côd post CF35 8NE)
Pellter: 5 milltir / 8cm
N.B. Mae problemau dros dro gyda’r hen drac reilffordd. Ar Gam 10, ewch i mewn i’r trac rheilffordd. Ar ôl tua hanner milltir, edrychwch i’r dde, am fonyn coed sydd wedi torri gyda’r llwybr bach at gamfa. Croeswch y gamfa. Trowch i’r chwith. Gadwch yn agos at y ffin. Croeswch y gamfa nesa’. Ewch tuag at ddarn o darmac a rhai cynwysyddion mawr. Wrth ddod yn nes, fe welwch y ffordd ymlaen i lôn fferm. Dilynwch y lôn fferm nes cyrraedd giât fawr gyda giât fechan ger y ffordd. Trowch i’r chwith a chroesi’r bont. Parheuwch o Gam 11.
- O gerflun William Price yn y Bull Ring ewch i'r chwith a chroeswch Stryd yr Alarch.
- Ewch yn eich blaen i lawr y rhiw ar hyd Heol y Sarn i gyrraedd comin Llantrisant a chroeswch grid gwartheg.
- Cymrwch y fforch ar y dde (ffordd fetel gul) i groesi'r comin. Ewch ymlaen am ychydig dros filltir (1.8cm) nes cyrraedd hen faen sy'n nodi ffin ar y chwith.
- Trowch i'r chwith dros y bont a chroeswch y nant (neu, i osgoi'r nant, peidiwch troi i'r chwith wrth yr hen faen. Yn hytrach, daliwch i fynd ar hyd y ffordd nes i chi gyrraedd y cyffordd ger Capel Annibynwyr Castellau. Trowch i'r chwith i Heol Ddu ac ail-ymuno â llwybr y daith wrth bwynt 6). Ewch yn syth ymlaen ar hyd y llwybr nes i chi gyrraedd peilon, ac ewch yn eich blaen i gornel y cae. Trowch i'r dde a dilynwch ffin y cae gan ddringo tipyn bach.
- Pan ddaw'r cyfle, trowch i'r chwith trwy glwyd a chroeswch y cae tuag at glwyd arall (mae'r ardal yma yn cael ei datblygu, ac felly fe allai safle'r ffensys a'r clwydi fod yn wahanol). Ewch trwy'r glwyd a chyda ffens bren ar eich chwith, ewch yn eich blaen nes i chi gyrraedd iet yng nghornel chwith y cae. Fe ddowch allan i ffordd wledig.
- Trowch i'r chwith i Heol Ddu gan gymryd gofal o'r traffig.
- Ewch heibio tafarn y Countryman ar y chwith.
- Ar ôl rhyw 220 llath (200m), ewch i'r dde ar hyd y lôn sy wedi ei marcio fel Fferm Treferig Cottage a Fferm Treferig Isha. Treferig oedd safle Tŷ Cwrdd y Crynwyr yn y 19G. Ewch ar hyd y lôn at bont garreg.
- Ewch dros y bont ac yna'n syth tros gamfa ar y chwith. Peidiwch cymryd y llwybr ar y chwith y tu hwnt i'r gamfa.
- Ymunwch â hen drac rheilffordd ar lan Nant Muchudd ac ewch ar ei hyd tan i chi gyrraedd ffordd. Trowch i'r chwith.
- Ar ôl rhyw chwarter milltir (400m), croeswch gamfa sydd ger iet ar y dde. Trowch ar eich union i'r chwith a dilynwch y llwybr, gyda'r coed ar eich chwith. Croeswch lôn (mae na gamfa ar bob ochr) ac ewch yn eich blaen ar hyd llwybr grafel. Mae Oaklands ar y chwith.
- Croeswch gamfa arall sydd ger iet ac ewch yn eich blaen i glwyd arall, lle rych chi'n cwrdd â Heol Llantrisant. Yn union ar y chwith mae maen carreg, gyda'r dyddiad 1909 arno. Dyma'r man lle, yn ôl yr hanes, y cafodd y Brenin Iorweth 11 ei ddal yn 1326.
- Trowch i'r dde a dilynwch y ffordd i bentref Pant y Brad.
- Ar ôl mynd heibio tri thy mawr ar y dde ar gwr y pentref, trowch i'r dde ar hyd llwybr. Ewch yn eich blaen dros y nant ac ewch drwy gatiau dwbwl tuag at Fferm Treboeth.
- Ewch heibio tŷ mawr ar y dde. Heibio iet y tu ôl i'r tŷ, a chroeswch bont dros nant ac ewch trwy glwyd arall. Trowch i'r dde lan y rhiw.
- Ar ôl tua 30 llath (27m) trowch i'r chwith dros gamfa. Dilynwch y llwybr i'r diwedd, gan fynd trwy iet mochyn werdd.
- Ewch i'r dde ac fe ddowch yn fuan at lwybr wedi ei balmantu. Gyda'r rheiliau gwyrdd ar y dde, ewch ar hyd y llwybr hwn, i fyny'r grisiau. Ar y gyffordd, ewch lan y rhiw gan ddilyn y ffordd at fencyn porfa ar y dde ar ôl y tŷ ola.
- Os ydych am aros yn Nhonyrefail, ewch ymlaen ar hyd Investiture Place (sy'n troi yn Concorde Drive) i'r ffordd i fysis. I gyrraedd canol y dre, cerddwch lawr y rhiw. Mae'r tro cynta ar y chwith yn mynd â chi i ffordd i gerddwyr sy'n arwain at y Stryd Fawr a chanol y dref.
Gyda diolch i Janet Sully a phawb sydd wedi cyfrannu i fapio'r daith.
Cychwyn: Concorde Drive, Tonyrefail (cyfeiriad grid ST 019788, côd post CF35 8NE)
Diwedd: Gorsaf Dinas Rhondda (cyfeiriad grid ST 006919, côd post CF40 2PJ)
Pellter: 3 milltir / 5cm
- Dringwch fencyn porfa ar ochr ogleddol Concorde Drive 'chydig cyn rhes o dai (gyda'r arwydd 4-6 Concorde Drive) ac ewch trwy glwyd fetel werdd yn y ffens.
- Ymunwch â'r llwybr tarmac ac ewch i'r dde. Dilynwch hwn wrth iddo wyro i'r chwith am ryw 350 llath (320m) tan i chi gyrraedd llwybr sy'n mynd i'r chwith. Ewch yn eich blaen ar hwn, i gyfeiriad y gogledd orllewin, tan i chi gwrdd â llwybr arall sy'n mynd i'r dde. Fe welwch dai gwyn yn Trebanog yn y pellter.
- Dilynwch y llwybr hwn, gan gymryd yr un ar y dde ble mae'r llwybr yn fforchio. Dilynwch hwn tan iddo ddechrau dringo i'r dde. Yn y fan yma ewch i'r chwith ar hyd llwybr culach i gyrraedd diwedd cul-de-sac a thai Pen y Dre. Yma, bron gyferbyn, fe welwch chi Ganolfan Gymunedol Waun Wen.
- Os nad ydych am fynd i fewn i'r ganolfan, trowch i'r chwith, heibio'r siop gwerthu popeth a dilynwch Heol Rhiwgarn i lawr i'r A4233 a'r Trebanog Arms (os ewch i i'r Ganolfan, trowch i'r dde i gyrraedd yr A4233).
- Croeswch y briffordd ac ewch yn eich blaen ar hyd Brooks Terrace. Ar ôl rhyw 200 llath (180m), trowch i'r dde ger gorsaf bysiau, ac i fyny Trem y Glyn.
- Yna cymerwch y troad cyntaf ar y chwith ac ewch yn syth lan i'r Comin. Cadwch at y prif lwybr gan anwybyddu'r un sy'n fforchio lawr i'r dde.
- Croeswch y ffens trwy fynd dros y gamfa, sy ar y chwith i glwyd ac ewch i'r dde lawr y rhiw am rhyw 85 llath (80m). Ewch dros y gamfa sy'n union o'ch blaen.
- O'r fan yma gallwch weld yn y pellter tua'r gogledd, bostyn ar dop y bryn. Anelwch at hwnnw. Ewch yn eich blaen i lawr, croeswch gwrs dwr a dringwch y llethr i gyfeiriad y postyn.
- Pan gyrhaeddwch y postyn, fe welwch Dinas a mynwent fawr ar y llethr o'ch blaen. Gwyrwch i'r chwith ac ewch yn eich blaen. Mae ffens o'ch blaen. Ewch lawr tuag at y ffens gan aros i'r dde ohoni. (er bydd raid i chi i fynd ymhellach i'r dde am dipyn bach i osgoi'r rhedyn.)
- Ewch dros y gamfa i ymuno a'r lôn sy wedi ei suddo, a dilynwch hon, gan fynd trwy glwyd ar y ffordd i lawr. Byddwch yn mynd heibio i adfail a chychod gwenyn ar y chwith.
- Ar waelod y rhiw, dilynwch y llwybr sy'n troi i'r chwith, gan groesi nant tan i chi gyrraedd iet, gyda'r prif lwybr yn dod o'r chwith. Ewch yn syth yn eich blaen yma. Mae'r llwybr yn mynd heibio tyddyn a hen adeiladau fferm ac yn cyrraedd Heol Graig Ddu.
- Ar ôl rhyw chwarter milltir (400m) mae'r ffordd yn fforchio. Fe allwch gymryd y ffordd i'r dde neu ar hyd lôn fer trwy goed i gyrraedd A4058 Heol Dinas, neu gallwch ddal i fynd yn syth ymlaen i gyrraedd yr heol.
- Trowch i'r chwith, croeswch y brif ffordd a mynd lawr y grisiau ar ôl bloc o fflatiau. Ewch i'r chwith gan ddilyn y llwybr sydd â'r afon ar y dde.
- Pan ddowch chi at y ffordd, trowch i'r dde a chroesi pont dros yr afon i Drealaw, gan gymryd gofal o'r traffig. Mae gorsaf Dinas ar y dde yn union ar ôl y bont.
Cychwyn: Gorsaf Dinas Rhondda (cyfeiriad grid ST 0069119, côd post CF40 2PJ)
Diwedd: Cerflun Arglwyddes Penrhys (cyfeiriad grid ST 002946, côd post: CF43 3PT)
Pellter: 2.5 milltir / 4cm
- Os ydych yn cychwyn o Orsaf Dinas, trowch i'r chwith i gyrraedd y bont. Ewch i fyny'r llwybr i'r dde o Westy Tŷ Lily Mia (gyferbyn â'r bont dros yr afon). Mae'r llwybr yn troi'n stepiau ac yn arwain i ffordd (Bryn Dinas View). Ewch yn syth yn eich blaen i briffordd.
- Croeswch y briffordd (A4058, Heol Brithweunydd) ac ewch yn eich blaen lan y rhiw ar hyd Nile Road. Ar ôl rhyw 50 llath (45m) ewch heibio Park Stores ar y chwith. Ar y top fe welwch glwydi Parc y Garth.
- Yn hytrach na mynd i fewn i'r parc cymerwch y lôn ar y dde (wedi ei nodi fel Garth Farm Private Road) a dilynwch hi i fyny o gwmpas y parc, gyda'r ffens werdd ar eich chwith.
- Wrth y gyffordd, ewch yn syth i fyny'r grisiau ar lwybr cul iawn i'r chwith o fyngalow Tyddwyn. Ewch dros y gamfa i gae ac ewch yn eich blaen lan y rhiw gyda'r wal ar eich chwith.
- Ar dop y cae ar y chwith ewch dros gamfa a dilynwch y llwybr i'r dde o amgylch ymyl y cwrs golff. Yn fuan ar ôl mynd heibio i fast ar y dde, fe fyddwch yn cwrdd â llwybr lletach. Mae'r dringo nawr i gyd y tu ôl i chi!
- Ewch i'r chwith i lwybr hen ffordd y plwy. Ar y dde fe welwch hen domen slag Old Smokey ger Tylorstown. Mae'n cael ei alw hefyd yn Dip Llanwonno neu dip Tylorstown.
- Ar ôl i chi ddilyn y llwybr ar hyd y grib am rhyw 700 llath (650m) – mae e yn ymyl cwrs golf, felly cadwch olwg ar beli yn hedfan o gwmpas! – byddwch yn mynd heibio i bwynt triongl ar y dde. Mae hwn yn dangos eich bod 357 llath (327m) uwchben lefel y môr. Mae golygfeydd gwych i'r chwith, yn edrych dros Llwynypia a thu hwnt, ac yn ôl tuag at Dinas a'r llwybr 'rych chi wedi dod ar ei hyd.
- Yn y pellter gallwch weld Penrhys, gyda cherflun y Forwyn Fair yn y blaen. Gyda sbienddrych mae'n bosib i chi weld top y ffynnon sanctaidd 'chydig i lawr i'r chwith. Ar ôl rhyw filltir (1.6cm) mae'r llwybr yn fforchio. Ewch i'r dde, ar hyd y llwybr porfa i gyrraedd y cerflun.
- I fynd i'r ffynnon – Ffynnon Fair – ewch lawr o'r cerflun, heibio amffitheatr sydd mewn hanner cylch ac wedi ei cherfio i ochr y llethr. Pan ddowch i ffordd, croeswch hi, a dilynwch y llwybr (sy ag arwydd arni) i lawr tan i chi gyrraedd llwybr arall. Dilynwch hwn i'r ffynnon.
- I fynd i fewn i stad Penrhys, lle mae na siop, a siop bysgod a sglodion a chaffi cymuned yn Eglwys Undebol Llanfair (sy' ddim ar agor bob dydd), croeswch y gylchfan ac ewch ar hyd y llwybr lan y rhiw ac fe gyrhaeddwch y cyfleusterau cymunedol ar y dde. Mae gwahoddiad i bob "pererin" i fynd i fewn i'r eglwys os ydi hi ar agor, i gael hoe fach. Pam gyrhaeddwch chi gerflun y Forwyn Fair ac edmygu'r golygfeydd, efallai y byddwch chi am fynd i'r toiled. Os gerddwch chi lan y rhiw i'r ystad fe ddowch chi o hyd i siop Woody's. Os ofynnwch chi yn y siop, fe fyddan' nhw yn cysylltu ag Eglwys Llanfair sy' ond rhyw dafliad carreg i ffwrdd, ac fe fydd rhywun yn agor cyfleusterau'r eglwys i chi.
Gyda diolch i Janet Sully a phawb sydd wedi cyfrannu i fapio'r daith.
Llwybr a Mapiau
Ynys yw Pen-rhys yn nhrwyn y fforest,
Bara ‘fferen a dŵr swyn.
gan Gwilym Tew circa 1470
Gweithio mewn partneriaeth



