Hanes


Fe ddaeth pererindod yn fwy poblogaidd yng Nghymru yn y 5G a’r 6G pan ddaeth enwau seintiau Cymru, fel Dewi Sant a Teilo Sant yn fwy amlwg. Pan ddaeth y Normaniaid i Gymru ar ddiwedd yr 11G, fe ddatblygodd safleoedd oedd yn gysylltiedig â’r seintiau hyn i fod yn ganolfannau pererindod pwysig, ac fe ddaeth rhai yn enwog yn rhyngwladol. Yn Ne Ddwyrain Cymru y ganolfan pererindod bwysicaf oedd allor Teilo Sant yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, er bod nifer o ffynhonnau cysegredig a chreiriau eraill hefyd yn denu pererinion.

Erbyn y 15G, y safle pererindod mwyaf poblogaidd yn yr ardal oedd cerflun o’r Forwyn Fair a’i Phlentyn a’r ffynnon gysegredig gerllaw ym Mhenrhys yn y Rhondda. Abaty Sistersaidd Llantarnam oedd yn ei reoli ac yn elwa o offrymau’r pererinion. Roedd Penrhys yn boblogaidd gyda phobl De Cymru a rhai tu hwnt i’r Hafren. Fe ddaethon nhw i gael gwellhad ac i roi diolch, ac fe ganodd nifer o feirdd Cymru fawl i Mair a’i safle sanctaidd ym Mhenrhys.

Roedd y Forwyn Fair wedi bod ar hyd yr amser yn ffigwr poblogaidd gan bererinion ond erbyn y 15G roedd safleoedd wedi eu neilltuo i Fair ymhlith y mwyaf poblogaidd yng Nghymru: ym Mhwllheli ym Mhen Llŷn, Priordy Aberteifi, yng Ngheredigion, Priordy Cydweli yn Sir Gaerfyrddin byddai pererinion yn addoli wrth gerfluniau o’r Forwyn Fair.

Ond yr enwocaf ohonyn nhw i gyd oedd safle Penrhys. Ym 1538 roedd yr awdurdodau Diwygio yn poeni cymaint am boblogrwydd Penrhys fel, ar orchymyn Thomas Cromwell, cafodd y cerflun o’r Forwyn Fair ei symud yn y dirgel i Lundain. Cafodd ei losgi’n ulw ynghyd â’r Forwyn Walsingham a’r Forwyn Ipswich.

Er i’r arfer o fynd ar bererindod edwino ar ôl y Diwygiad Protestanaidd, fe oroesodd y llwybrau rhwng Caerdydd a Phenrhys a’r ffynnon sanctaidd. Ym 1953 cododd Archesgobaeth Yr Eglwys Gatholig yng Nghaerdydd gerflun newydd o’r Forwyn Fair wedi ei gerfio o garreg Portland, ar safle’r Capel Sistersaidd.

Llwybr a Mapiau


Poster y Llwybr

Cysylltwch â ni


E-bost: post@penrhyspilgrimageway.wales

Ynys yw Pen-rhys yn nhrwyn y fforest, 
Bara ‘fferen a dŵr swyn.

gan Gwilym Tew circa 1470

Gweithio mewn partneriaeth


Cardiff Caerdydd, Rhondda Cynon Taf