Croeso i Ffordd Pererindod Penrhys
Mae Penrhys yn y Rhondda wedi bod yn ganolbwynt i pererindod dros ganrifoedd lawer. Heddiw, fe allwch gerdded ar hyd Ffordd Pererindod Penrhys o Gadeirlan LLandaf yng Nghaerdydd a dod o hyd i lwybr sydd â chyfoeth o hanes wrth i chi deithio trwy dirlun De Cymru sydd wastad yn newid.
Mae'r ffordd yn dilyn llwybrau cyhoeddus am 21 milltir o Gadeirlan LLandaf yng Nghaerdydd i Benrhys yn y Rhondda. Mae'n cael ei rhannu i chwe rhan ac mae'n bosib cyrraedd sawl man ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fe all y llwybr gael ei gerdded fesul darn neu ddarnau ar y tro. Neu mae'n bosib ei gerdded ar ei hyd dros ddeuddydd, gan aros un noson yn Llantrisant. Mae'r llwybr yn mynd trwy neu'n agos at fannau o ddiddordeb - ac yn ystod y siwrnai, peidiwch ag anghofio printio pasbort a chasglu'r unarddeg stamp sy wedi eu cynllunio'n abennig.
Daliwch ati! 'Rydych 'nawr yn Geidwad y Ffordd
Os gwelwch yn dda, dwedwch wrth y Swyddogion Hawliau Tramwy am unrhyw rwystr y dowch o hyd iddo ar y daith.
Ar gyfer Adrannau 1 a 2, cysylltwch â thîm Hawliau Tramwy Caerdydd, ag eithrio rhan fach ar bwys Groesfaen.
Ar gyfer Adrannau 3, 4, 5 a 6 cysylltwch â thîm hawliau Tramwy Rhondda Cynon Taf.
Mae'r ddau dîm yn cefnogi Ffordd Pererinion Penrhys, ac os riportiwch chi ddarn o'r llwybr sy' ddim yn eu hardal nhw, byddant yn pasio'r neges ymlaen i'r tim arall.
Os ydych yn defnyddio what3words, nodwch ble rydych chi ar what3words er mwyn i'r swyddogion Hawliau Tramwy allu gweld. Fel arall, ceisiwch ddangos iddynt ar fapiau neu wrth roi cyfarwyddiadau iddyn nhw, gan roi iddyn nhw gymaint o wybodaeth ag y gallwch.
Dwedwch wrthyn nhw, os gwelwch yn dda, eich bod yn riportio problem ar Hawl Tramwy Cyhoeddus.
Cardiff
(Adrannau 1 a 2)
Ebost: PublicRightsOfWay@cardiff.gov.uk
Ffôn: 02920 872 087
Dwedwch wrthyn nhw, os gwelwch yn dda, eich bod yn riportio problem ar Hawl Tramwy Cyhoeddus.
Rhondda Cynon Taf
(Adrannau 3, 4, 5 a 6)
Ebost: PRoW@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425005
Dwedwch wrthyn nhw, os gwelwch yn dda, eich bod yn riportio problem ar Hawl Tramwy Cyhoeddus.
Llwybr a Mapiau
Ynys yw Pen-rhys yn nhrwyn y fforest,
Bara ‘fferen a dŵr swyn.
gan Gwilym Tew circa 1470
Gweithio mewn partneriaeth




